Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (107) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.29
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddarparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol
Dechreuodd yr eitem am 14.43
4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter
Dechreuodd yr eitem am 15.13
Cynnig I Atal Rheol Sefydlog 11.16, 12.20(I) A 27.7 I Ganiatáu I'r Ddwy Eitem Nesaf O Fusnes Gael Eu Trafod (5 Munud)
Dechreuodd yr
eitem am 15.45
NDM5153 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 11.16, Rheol Sefydlog
12.20(i) a Rheol Sefydlog 27.7 er mwyn caniatáu i NNDM5151
ac NNDM5152 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 22
Ionawr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gan bleidleisio arnynt ar wahân.
5. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013
Dechreuodd yr eitem am 15.46
NNDM5151 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2013
NNDM5152 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7. Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012
Dechreuodd yr eitem am 16.10
NDM5141 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn
cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Gynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau
Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn
Electronig) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r
fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr
2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8. Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.17
Yn
unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael
eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y
maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r
gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u
trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:
1.Hysbysu am sgoriau hylendid bwyd a'u cyhoeddi
12, 1, 13, 2, 14,
3
2.Cyhoeddi sgoriau hylendid bwyd ar ddeunydd hyrwyddo
9, 21, 22, 10, 23,
11, 25, 5, 8
3. Y gofyniad i arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd lluosog
4, 7
4. Troseddau
24, 26, 27
5. Dyletswyddau yr Asiantaeth Safonau Bwyd
15, 16, 17, 18,
19
6. Y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig
6
7.Diwygio cyfnodau i gydymffurfio â dyletswyddau
20
Cynhaliwyd y pleidleisiau yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:
Tynnwyd gwelliant 12 yn ôl.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ni chynigwyd gwelliant 13.
Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, methodd gwelliant 14.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
For |
Abstain |
Against |
Total |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gan fod gwelliant 9 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 10 ac 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 21:
For |
Abstain |
Against |
Total |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 21.
Gan fod gwelliant 21 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 22, 23 a 25.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 24:
For |
Abstain |
Against |
Total |
21 |
0 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 24.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 26:
For |
Abstain |
Against |
Total |
21 |
0 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 26.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 27:
For |
Abstain |
Against |
Total |
21 |
0 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 27.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
For |
Abstain |
Against |
Total |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Tynnwyd gwelliant 15 yn ôl.
Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 20:
For |
Abstain |
Against |
Total |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
9. Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).
Dechreuodd yr eitem am 17.20
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10. Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn
Dechreuodd yr eitem am 17.31
NDM5141 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2011-12, y
gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr
2013.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agosach gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddatblygu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru (Cam 3).
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu dulliau clir o fonitro urddas a gofal i bobl hŷn o ganlyniad i ‘Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well – Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru’.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad ‘Llais, Dewis a Rheolaeth’ i ddatblygu gwasanaeth eirioli cadarn ac annibynnol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5141 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2011-12, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2013.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agosach gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddatblygu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru (Cam 3).
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu dulliau clir o fonitro urddas a gofal i bobl hŷn o ganlyniad i ‘Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well – Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru’.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad ‘Llais, Dewis a Rheolaeth’ i ddatblygu gwasanaeth eirioli cadarn ac annibynnol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:17
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 23 Ionawr 2013